Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Festival UK* 2022?
Mae Festival UK* 2022 yn ŵyl genedlaethol fawr sy'n dathlu creadigrwydd ac arloesedd y DU.
Beth yw'r prosiect Ymchwil a Datblygu?
Mae'r prosiect Ymchwil a Datblygu yn brosiect strwythuredig, yna hunangyfeiriedig, creadigol ar gyfer 30 o Dimau Creadigol i ddatblygu cysyniadau ymgysylltu â'r cyhoedd torfol. Cyflwynir syniadau i banel ar ddiwedd y prosiect Ymchwil a Datblygu, a llunnir rhestr fer o 10, a fydd yn cael eu comisiynu'n llawn fel prosiect cenedlaethol neu drwy'r DU gyfan ar gyfer yr ŵyl.
Pryd y cynhelir y prosiect Ymchwil a Datblygu?
Bydd y prosiect Ymchwil a Datblygu yn cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2020 a Chwefror 2021.
Faint o Dimau Creadigol sy'n cymryd rhan yn y prosiect Ymchwil a Datblygu?
Hyd at 30 tîm. Bydd 22 yn cael eu dewis o blith yr ymgeiswyr o bob cwr o'r DU, gyda dau ychwanegol o bob cenedl.
Pwy sy'n dewis y 30 tîm?
Aseswyd y timau yn erbyn ystod o feini prawf cyn cael eu rhoi ar y rhestr fer gan gynrychiolwyr tîm Festival UK* 2022, a'r cyrff cyflawni ar gyfer pob cenedl, gyda mewnbwn gan ein Cynghorwyr Creadigol.
Pryd y cyhoeddir rhaglen yr ŵyl?
Bydd y rhaglen, dan enw gŵyl newydd, yn cael ei chyhoeddi yn hydref 2021.
Sut y gallaf gadw mewn cysylltiad â Festival UK* 2022?